Newydd i fabwysiadu?

Pwy all fabwysiadu?

Dod o hyd i blentyn

Cefnogaeth ôl-fabwysiadu

Gwirfoddoli

Campaigning in Wales
Promoting the concerns and interests of adoptive families in Wales

Links
Useful websites for adopters and prospective adopters in Wales

Pwy all fabwysiadu?

Statws Priodasol

Gall pobl sengl, parau priod, parau sy'n cyd-fyw a pharau o'r un rhyw i gyd fabwysiadu. Nid yw rhywioldeb yn rhwystr i fabwysiadu.*

Oed

Rhaid i fabwysiadwyr yng Nghymru a Lloegr fod dros 21 mlwydd oed (18 os yw un o'r pâr yn rhiant biolegol i'r plentyn). Does dim terfyn oedran uchaf, ond rhaid i'r awdurdod sy'n lleoli'r plentyn fod yn hyderus y bydd gan unrhyw un sy'n mabwysiadu plentyn yr egni angenrheidiol a bod eu hiechyd yn ddigon da i gynnig cartref sefydlog.

Arian

Does dim rhaid i chi fod yn gyfoethog nac yn berchen ar eich cartref i fabwysiadu, ond bydd angen i chi roi manylion o'ch incwm ac esbonio sut y byddech chi'n cynnal plentyn. Rhaid i chi gael digon o le i gwrdd ag anghenion y plentyn a gallech fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth ariannol gan yr awdurdod lleol, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau; caiff hwn ei adolygu bob blwyddyn. Gallwch hefyd wneud cais am fudd-daliadau a chredydau treth seiliedig ar brawf modd fel unrhyw deulu arall.

Lechyd

Mae angen yr egni ar rieni sy'n mabwysiadu i ymdopi â bywyd teuluol a chwrdd ag anghenion y plentyn drwy gydol ei blentyndod ac ymlaen i oedolaeth gynnar. Mae iechyd a lles yn chwarae rhan yn y broses asesu, ond ni fyddwch yn cael eich gwrthod yn awtomatig am fod yn anabl, dros eich pwysau neu fod â chyflwr meddygol. Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd, ond eich bod yn ansicr sut y byddech yn ymdopi ar lefel ymarferol, defnyddiwch wasanaeth PAL Adoption UK i siarad gyda mabwysiadwr â'r un cyflwr arno/i.

Ystyriaethau Eraill

Os oes gennych chi record droseddol, rhaid i chi ddatgelu hyn wrth wneud cais. Fydd hyn ddim yn eich gwahardd yn awtomatig rhag mabwysiadu, ond ni fydd yn gyfraith yn caniatáu i neb fabwysiadu neu faethu os ydyw ef/hi, neu aelod o'u cartref, wedi cael eu dyfarnu'n euog neu wedi cael rhybudd am droseddau yn erbyn plentyn.

Oherwydd effaith ysmygu goddefol ar fabanod a phlant, mae rhai asiantaethau mabwysiadu'n wyliadwrus ynghylch gosod plentyn ifanc mewn cartref lle mae rhywun yn ysmygu, yn enwedig os oes ganddynt hanes o broblemau calon neu resbiradol. Nid yw ysmygwyr yn cael eu diystyru’n awtomatig rhag mabwysiadu, ond bydd asiantaeth fabwysiadu'n ystyried yr effeithiau posibl ac yn trafod y materion cysylltiedig gyda darpar fabwysiadwyr.

*Nid yw mabwysiadwyr o'r un rhyw yng Ngogledd Iwerddon yn gallu mabwysiadu ar hyn o bryd, er y gallai'r gyfraith newid yn y dyfodol.