I fabwysiadu plentyn mae angen i chi gael eich cymeradwyo gan asiantaeth fabwysiadu. Mae'r rhan fwyaf o asiantaethau yn rhan o wasanaethau plant yr awdurdod lleol (yng Nghymru a Lloegr) neu'r adran gwaith cymdeithasol (yn yr Alban). Mae yna asiantaethau gwirfoddol hefyd sy'n cael eu rhedeg gan elusennau fel Barnado's.
Bydd yr asiantaeth yn clustnodi gweithiwr cymdeithasol i chi, ac yn mynd â chi drwy'r broses. Mae angen i banel mabwysiadu eich cymeradwyo i fabwysiadu cyn i chi allu cael eich paru gyda phlentyn addas. Ni ddylai'r broses gyfan gymryd mwy nag wyth mis ar ôl gwneud y cais ffurfiol.
Defnyddiwch ein cronfa ddata Canfod Asiantaeth i gysylltu â rhai asiantaethau am becyn gwybodaeth a holwch a oes ganddynt sesiwn wybodaeth y gallech fynd iddi. Os ydych chi'n aelod o Adoption UK, gofynnwch i'ch Cydlynydd Gwirfoddoli lleol eich cyflwyno i aelodau lleol eraill er mwyn trafod a wnaethon nhw ddefnyddio awdurdod lleol neu asiantaeth wirfoddol, a gallwch siarad â'n Llinell Gymorth.
Ar ôl eich cyswllt cyntaf gyda'r asiantaeth, dylai ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig o fewn pum diwrnod gwaith a'ch gwahodd i gyfarfod gwybodaeth o fewn dau fis. Byddwch wedyn yn llenwi ffurflen gais, sy'n gais ffurfiol i gael eich asesu. Os cewch eich derbyn gan eich asiantaeth o ddewis, bydd gweithiwr cymdeithasol yn cael ei glustnodi i chi a chewch eich asesu.
Byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu gweithdai grŵp i ddysgu am rianta a'r problemau ychwanegol sy'n gysylltiedig â magu plentyn wedi'i fabwysiadu, ac i gwrdd â phobl sydd wedi bod drwy'r broses.
Dyma'r broses o archwilio addasrwydd y darpar fabwysiadwyr i fabwysiadu. Bydd gweithiwr cymdeithasol yn gwneud tua chwe ymweliad â'r cartref, yn gofyn cwestiynau manwl am eich cefndir teuluol, eich perthnasoedd, eich plentyndod a'ch amgylchiadau presennol, ac yn cyfweld aelodau eraill o'r cartref. Y nod yw bod y gweithiwr cymdeithasol yn mesur eich cryfderau a'ch potensial, a'ch bod chi'n ystyried y materion sy'n ymwneud â rhianta plentyn sydd wedi'i fabwysiadu.
Rhaid i chi gytuno i gael archwiliad meddygol, archwiliad o'ch hanes meddygol a gwiriad yr heddlu. Mae awdurdodau lleol yn cael cais i ddatgelu unrhyw broblemau gyda phlant blaenorol. Bydd o leiaf tri geirda'n cael eu cymryd drwy gyfweld â ffrindiau wyneb yn wyneb. Bydd cyn bartneriaid yn cael eu holi yn enwedig os oes unrhyw blant o'r berthynas honno.
Bydd y gweithiwr cymdeithasol wedyn yn rhoi'r wybodaeth hon at ei glyd mewn Adroddiad ar Ddarpar Fabwysiadwyr (Ffurflen F yn flaenorol). Bydd gennych o leiaf ddeg diwrnod gwaith i gynnig sylwadau ar yr adroddiad.
Gwahoddir darpar fabwysiadwyr i fynychu cyfarfod o'r panel mabwysiadu, sy'n argymell i'r asiantaeth a ddylent gael eu cymeradwyo fel mabwysiadwyr ai peidio. Dylai penderfyniad yr asiantaeth ynghylch a ydynt wedi'u cymeradwyo ai peidio cael ei roi ar lafar o fewn dau ddiwrnod ac yn ysgrifenedig o fewn pum niwrnod.
Os yw'r asiantaeth yn bwriadu peidio â chymeradwyo cais y mabwysiadwyr, gall y darpar fabwysiadwyr (yng Nghymru a Lloegr yn unig) geisio adolygiad gan y Mecanwaith Adolygu Annibynnol (IRM). Rhaid i chi gysylltu â'r IRM o fewn 40 diwrnod os yn Lloegr, 28 diwrnod os yng Nghymru, i dderbyn yr hysbysiad ysgrifenedig gan yr asiantaeth.
Unwaith y bydd y darpar fabwysiadwyr wedi cael eu cymeradwyo, bydd yr asiantaeth yn cychwyn ar y broses o chwilio am blentyn addas.
Unwaith y byddwch wedi cael eich derbyn gan asiantaeth fabwysiadu ac wedi bod drwy'r broses i ddod yn ddarpar fabwysiadwr wedi'ch cymeradwyo, mae'r cyfnod aros yn cychwyn am blentyn addas sydd angen teulu.
Weithiau bydd y plentyn yng ngofal eich awdurdod lleol, neu weithiau o awdurdod lleol arall.
Gall darpar fabwysiadwyr sydd wedi eu cymeradwyo fod yn rhagweithiol drwy ddarllen y cylchgrawn Children Who Wait, anfon taflenni gyda'u manylion arnynt at asiantaethau mabwysiadu eraill, neu fynychu Dyddiau Cyfnewid Mabwysiadu lle mae nifer o asiantaethau'n dod at ei gilydd ac yn dangos manylion plant dan eu gofal sy'n aros am deuluoedd.
Unwaith y caiff plentyn addawol ei ganfod, bydd yr asiantaeth yn cwrdd â'r darpar fabwysiadwyr i drafod y lleoli ac i asesu anghenion y teulu sy'n mabwysiadu am Adroddiad Lleoli Mabwysiadu.
Mae'r darpar fabwysiadwyr yn cyflwyno eu sylwadau ar yr adroddiad hwn, ac fe'i cyfeirir at y panel mabwysiadu, sy'n gwneud argymhelliad ar p'un a ddylai'r paru fynd yn ei flaen. Asiantaeth y plentyn (sy'n aml yn wahanol i asiantaeth y mabwysiadwyr) sy'n gwneud y penderfyniad terfynol, o fewn saith diwrnod gwaith i dderbyn argymhelliad y panel. Hysbysir y darpar fabwysiadwyr yn ysgrifenedig o fewn pum diwrnod gwaith.
Bydd yr asiantaeth wedyn yn cynnal cyfarfod cynllunio lleoli i gynhyrchu'r Cynllun Lleoli Mabwysiadu sy'n cynnwys manylion cyflwyniadau, cyswllt a chefnogaeth mabwysiadu.
Unwaith y mae hyn wedi'i wneud, gallu cyflwyniadau gychwyn, lle mae'r mabwysiadwyr yn cwrdd â'u plentyn newydd am y tro cyntaf, fel arfer yng nghwmni'r gofalwr maeth. Bydd cyfres o gyfarfodydd yn cael eu cynnal gan roi cyfle i'r plentyn a'r mabwysiadwyr ddod i adnabod ei gilydd.
Ar ôl y cyflwyniadau, bydd y plentyn yn symud i mewn i gartref ei rieni newydd. Bellach mae gan y mabwysiadwyr gyfrifoldeb rhiant yn gyfreithiol, wedi'i rannu gyda'r rhieni biolegol a'r asiantaeth. Nid yw'r plentyn wedi ei fabwysiadu'n gyfreithlon eto.
Unwaith y bydd y plentyn wedi bod yn y lleoliad am o leiaf ddeng wythnos, gall y rhieni sy'n mabwysiadu wneud cais am orchymyn mabwysiadu. Golyga'r gorchymyn fod yr holl gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn cael ei drosglwyddo i'r mabwysiadwyr. Mae'r plentyn yn awr yn aelod llawn o'i deulu newydd, a gall gymryd cyfenw'r teulu. Dim ond dan amgylchiadau prin iawn y gall gorchmynion mabwysiadu gael eu gwrth-droi.