Newydd i fabwysiadu?

Pwy all fabwysiadu?

Dod o hyd i blentyn

Cefnogaeth ôl-fabwysiadu

Gwirfoddoli

Campaigning in Wales
Promoting the concerns and interests of adoptive families in Wales

Links
Useful websites for adopters and prospective adopters in Wales

Cefnogaeth ôl-fabwysiadu

Rhan bwysig o waith Adoption UK yw darparu cefnogaeth ôl-fabwysiadu i deuluoedd sy'n mabwysiadu sy'n rhianta plentyn wedi'i drawmateiddio.

Llinell Gymorth Adoption UK

Mae tîm o Gynghorwyr Llinell Gymorth penodol, pob un ohonynt â phrofiad personol o fabwysiadu, yn ateb y llinell gymorth gan gynnig gwybodaeth gyfredol a chefnogaeth.

Noder, nid gwasanaeth cwnsela yw hwn ac hi ddylai galwadau fod yn fwy na 30 munud yr un. Os oes angen mwy o amser arnoch, gofynnwch i'r cynghorydd am apwyntiad i ffonio eto.

Mae'r Llinell Gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhang 10am a 4pm. Pris y galwadau yw 5c y funud bob amser. Er mwyn siarad â Chynghorydd Llinell Gymorth Adoption UK, ffoniwch 0844 848 7900, neu ebostiwch y Ddesg Gymorth * This is a link to an email form on Contatc networks!

Cymuned Ar-lein a byrddau negeseuon

Gwybodaeth gynhwysfawr am fyd mabwysiadu, erthyglau am amrywiaeth eang o faterion mabwysiadu.

Chwiliwch ein e-Lyfrgell am erthyglau ar unrhyw beth o awtistiaeth i hawlio credydau treth, treuliwch beth amser yn hamddena gyda'n cystadleuthau poblogaidd, a chewch gymorth a chefnogaeth 24 awr y dydd ar ein Byrddau Negeseuon hynol lwyddiannus.

Grwpiau Cefnogi Lleol

Mae grwpiau cefnogi, sy'n cael eu rhedeg gan dîm o Gydlynwyr Gwirfoddol, wedi'u lleoli ar draws y Deyrnas Unedig. . Mae'r grwpiau yn gyfeillgar ac yn groesawgar, ac yn agored i holl aelodau Adoption UK, p'un a wnaethoch chi fabwysiadu ddeng mlynedd yn ôl neu'ch bod yn y broses nawr.

Mae pob grŵp yn unigryw, yn cynnig cyfleoedd i gwrdd, i rannu cefnogaeth ac i adeiladu cyfeillgarwch gyda mabwysiadwyr eraill yn eich ardal, drwy gyfrwng digwyddiadau fel cyfarfodydd trafod gyda'r nos, boreau coffi, digwyddiadau cymdeithasol a dyddiau hwyl i'r teulu.

Cyfeillion

P'un a ydych newydd gael plentyn wedi ei leoli gyda chi, neu'n mynd drwy amser caled ar hyn o bryd, mae'n talu i siarad â rhywun. Mae ein Cyfeillion gwirfoddol yn rhieni sy'n mabwysiadu profiadol sy'n cynnig cefnogaeth, gwybodaeth ac anogaeth dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb os yw hynny'n briodol.

Maen nhw wedi eu hyfforddi i wrando ac i helpu, a bydd eich Cyfaill yn eich ffonio bob wythnos i sgwrsio, i siarad am unrhyw anawsterau rydych wedi eu cael ac i'ch cyfeirio at ble y gallwch gael rhagor o help.

Llyfrgell Fenthyca

Mae dros 500 o lyfrau, fideos, tapiau a gemau therapiwtig ar gael yn llyfrgell cyfryngau cymysg Adoption UK a rheiny'n trafod amrywiaeth eang o faterion mabwysiadu a maethu. Mae modd i aelodau Adoption UK fenthyca'r rhain yn rhad ac am ddim (ar wahân i gostau postio).
Pori'r Catalog Ar-lein nawr...

PAL - Cyswllt (Cyswllt Rhwng Rhieni)

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun! Mae gennym gyfeirlyfr o rieni sy'n mabwysiadu sy'n barod i rannu gwybodaeth werthfawr o'u profiadau mabwysiadu a maethu.

Mae'n rhoi cefnogaeth hanfodol i bobl ar amrywiaeth enfawr o faterion a phrofiadau. Ydych chi'n mabwysiadu plentyn ag anabledd ac am wybod sut beth yw hynny? Galwch ni am Gyswllt!

Rhwydweithiau Cyswllt

Grwpiau o bobl mewn sefyllfaoedd tebyg i'w gilydd, yn cael eu cyflwyno i'w gilydd gan Adoption UK. Mae gennym rwydweithiau cyfredol ar gyfer mabwysiadu plant o wledydd eraill, mabwysiadwyr anabl, mabwysiadwyr du, gofalwyr maeth, neiniau a theidiau a llawer mwy. Cais am fwy o wybodaeth am Rhwydwaith Cyswllt Adoption UK (ffurflen ebost).

Gwasanaeth Ymgynghorydd Rhieni

Mae'r gwasanaeth hanfodol hwn yn darparu cefnogaeth ymarferol, annibynnol i aelodau sy'n delio â materion mabwysiadu, yn eu helpu i gael gafael ar wasanaethau a gwybodaeth, a hyd yn oed cyfryngu gyda'ch asiantaeth os bydd angen.

Mae gennych hawl i gael sesiwn awr yn rhad ac am ddim gydag Ymgynghyrodd Rhieni. Codir tâl o £45 am sesiynau pellach, a gall hwn gael ei dalu gennych chi neu gan eich asiantaeth.

Cyhoeddiadau

Mae'n cylchgrawn misol Adoption Today yn cynnwys gwybodaeth a newyddion, adolygiadau o lyfrau, llythyrau ac erthyglau am brofiadau bywyd go iawn o fabwysiadu, a'r syniadau diweddaraf gan rieni a'r cylchdaith gynadledda.

Gyda'r newyddion diweddaraf ar rianta therapiwtig, mae Adoption Now ac Adoption Now 2 yn cynnwys ethyglau gwerthfawr ar bob agwedd o fabwysiadu, yn cynnwys strategaethau ymarferol gan rieni a therapyddion.

Mae'r cyhoeddiadau eraill yn cynnwys Adoption Law for Adopters; Oh Brother! Tom Gets a New Adopted Brother, i helpu mabwysiadwyr sydd â phlant biolegol esbonio mabwysiadu i'w plant; a Maintaining Links with Birth Families.

Hyfforddiant

Mae Adoption UK yn rhedeg amrywiaeth o weithdai yn cynnwys matrion Cyswllt, Ysgol ac Addysg a Rhianta'r Arddegau Mabwysiedig, y cyfan yn cael eu rhedeg gan rieni sy'n mabwysiadu profiadol.

Mae'n rhaglenni clodwiw cefnogi rhieni, 'Ar Blât' yn cynnig golwg newydd ar rianta plant doluriedig ac mae'n caniatáu i rieni archwilio eu disgwyliadau eu hunain ac i rannu strategaethau rhieanta newydd a chreadigol.

*Mae gan Adoption UK linellau cymorth penodol ar gyfer mabwysiadwyr sy'n byw yng Nghymru, , Gogledd Iwerddon a Lloegr .

Gogledd Iwerddon: Llun i Gwener 10am - 4 pm 028 9446 9493; Dydd Mercher 8pm - 10pm 0844 8487900

Yr Alban : Llun i Gwener 10am - 1 pm 0131 558 2667; Llun i Gwener 1am - 4 pm 0844 848 7900

Cymru: Llun i Gwener 11am - 1 pm 02920 232221.