Mae girfoddoli i Adoption UK yn ffordd wych i gefnogi a chwrdd â theuluoedd eraill sy'n mabwysiadu yn eich ardal. Gall hefyd fod yn llawer o hwyl ac mae'n ffordd dda o wneud ffrindiau newydd, yn ogystal â dysgu sgiliau newydd ac ennill profiad gwaith gwerthfawr.
Mae ein rhwydwaith o Gydlynwyr Gwirfoddol yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth, annogaeth ac arweiniad i'n aeloday yn eu hardaloedd lleol.
Mae Adoption UK yn chwilio am wirfoddolwyr yn barhaus i ymyno â'r tîm, boed i sefydlu grwpiau newydd, neu i roi help llaw i grŵp sy'n bodoli eisoes.
Rhieni sy'n mabwysiadu yw gwirfoddolwyr Adoption UK (h.y wedi mabwysiadu eu plentyn neu blant yn gyfreithiol). Maen nhw'n bobl brwdfrydig, sydd ag amser i'w roi a'i rannu, mae ganddyn nhw ddiddordeb cyffredinol mewn pobl eraill ac ymwybyddiaeth a diddordeb mewn datblygu gwybodaeth am fabwysiadu a materion cysylltiedig.
Mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig anogaeth a chefnogaeth i bobl sydd â diddordeb mewn mabwysiadu plant, i ddarpar fabwysiadwyr, i fabwysiadwyr sydd wedi eu cymeradwyo ac i rieni sy'n mabwysiadu.
Trwy gyfrwng cyfarfodydd grŵp a chyfarfodydd teuluol, maen nhw'n darparu cyfle i ddarpar fabwysiadwyr a rhieni sy'n mabwysiadu ddod i adnabod ei gilydd yn eu cymunedau lleol. Mae'r cyfleoedd hyn i gwrdd a rhannu profiadau'n werthfawr iawn i'n haelodau
Ein gwirfoddolwyr yw ein cynrychiolwyr yn y gymuned leol ac rydym yn rhoi gwerth mawr ar eu rôl o fewn y sefydliad. Mae Adoption UK yn ymroddedig i hyfforddi a datblygu ei wirfoddolwyr yn cynnwys mynychu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i'w sefydlu sy'n para dau ddiwrnod cyn iddyn nhw gychwyn ar eu rôl, a hyfforddiant a chefnogaeth barhaus wedi hynny.
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais gwirfoddoli